ÃÛÌÒapp

ÃÛÌÒapp Always Learning

Select your Language

  • English
  • Cymraeg

Home

  • YnglÅ·n â PISA
  • I Ysgolion
    • Cwestiynau Cyffredin
  • I Ddisgyblion
  • I Rieni
  • I Gydlynwyr Ysgol
    • Camau nesaf
  • Canfyddiadau PISA
  • Blogiau
  • Y Tîm
  • Diogelu Data
  • Cysylltu â ni
  • Secure document share
  • ÃÛÌÒapp UK home >
  • PISA25 >
  • YnglÅ·n â PISA .
PISA logo

Ynglŷn â PISA

Beth yw PISA?

Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw astudiaeth addysg ryngwladol fwyaf y byd, ac mae'n cynnwys ysgolion a disgyblion mewn dros 90 o wledydd. Caiff PISA ei chynnal gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) bob tair blynedd. Mae'r astudiaeth yn golygu y gellir gwerthuso systemau addysg ledled y byd drwy fesur gwybodaeth a sgiliau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth disgyblion tua diwedd eu cyfnod mewn addysg orfodol. Drwy ddadansoddi sgorau disgyblion, ochr yn ochr â gwybodaeth gyd-destunol am nodweddion disgyblion a'u hymgysylltiad, prosesau rheoli ysgolion a pholisi cenedlaethol, mae'r astudiaeth yn cynnig cyfle i ddeall gwahaniaethau ym mherfformiad disgyblion, a hynny o fewn gwledydd sy'n cymryd rhan a rhyngddynt.

fydd ffocws cylch PISA 2025, a bydd cyfran fwy o'r cwestiynau yn targedu'r maes hwn. 

Mae cymryd rhan yn PISA yn galluogi'r gwledydd sy’n cymryd rhan i gymharu eu cyflawniad yn rhyngwladol, dysgu o bolisïau ac arferion gwledydd eraill a monitro tueddiadau dros amser. Mae'r gweithgareddau hyn yn allweddol i wella cyrhaeddiad a phrofiadau addysgol.

Mae asesiad PISA yn cynnwys:

Asesiad ar sgrin i ddisgyblion

Mae hwn yn asesu cymhwysedd mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg. Mae'r asesiad yn cynnwys dwy adran awr o hyd.

Holiadur cefndir i ddisgyblion

Yn holi am eu nodweddion, eu hysgol a'u profiadau dysgu.

Holiadur i ysgolion i'r penaethiaid

Yn holi am gyd-destun eu hysgol, y staff a'r disgyblion.

Llinell amser

Bydd ÃÛÌÒapp yn cyflwyno astudiaeth PISA 2025 ar ran yr Adran Addysg a Sgiliau yng Nghymru, Adran Addysg Lloegr ac Adran Addysg Gogledd Iwerddon.Coleg Prifysgol Llundain (UCL) fydd yn arwain y gwaith dadansoddi ac adrodd ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon a Chanolfan Prifysgol Rhydychen ar gyfer Asesu Addysg (OUCEA) fydd yn arwain y gwaith dadansoddi ac adrodd ar gyfer Lloegr.

Mawrth 2024 – Ysgolion a disgyblion yn cymryd rhan ym Mhrawf Maes PISA.

Chwefror - Ebrill 2025 – Ysgolion a disgyblion yn Lloegr yn cymryd rhan ym Mhrif Astudiaeth PISA.

Medi - Hydref 2025 – Ysgolion a disgyblion yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan ym Mhrif Astudiaeth PISA.

Rhagfyr 2026 – Canfyddiadau pob gwlad yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad rhyngwladol gan yr OECD. Caiff adroddiadau cenedlaethol eu llunio ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon (gan UCL) ac ar gyfer Lloegr (gan OUCEA).

Rhagor o wybodaeth am PISA

Partner logos: Department for Education (England), Welsh Government, Department of Education (NI), OECD, ÃÛÌÒapp, UCL, Department of Education University of Oxford
  • Educators
  • Learners
  • Industry and Professionals
  • Shop
  • Contact us
  • Where we are
  • The PEL board
  • Careers
  • News and policy
  • Global Rights Licensing
  • Global Permissions
  • Accessible content
  • Authors
  • Retail Partners

Related sites


  • Corporate & Investors
  • Privacy Notice
  • Cookies
  • Legal Statement
  • Accessibility
  • Modern Slavery Act