ÃÛÌÒapp

ÃÛÌÒapp Always Learning

Select your Language

  • English
  • Cymraeg

Home

  • YnglÅ·n â PISA
  • I Ysgolion
    • Cwestiynau Cyffredin
  • I Ddisgyblion
  • I Rieni
  • I Gydlynwyr Ysgol
    • Camau nesaf
  • Canfyddiadau PISA
  • Blogiau
  • Y Tîm
  • Diogelu Data
  • Cysylltu â ni
  • Secure document share
  • ÃÛÌÒapp UK home >
  • PISA25 >
  • Diogelu Data .
PISA logo

Diogelu Data

Pa wybodaeth a gaiff ei chasglu a pham?

Mae ÃÛÌÒapp UK a'i bartneriaid, OUCEA ym Mhrifysgol Rhydychen ac UCL, wedi cael eu comisiynu i gynnal astudiaeth PISA 2025 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ran eu llywodraethau. Rydym yn cymryd diogelwch data o ddifrif ac yn dilyn Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu ei chadw'n ddiogel ac ni fydd modd adnabod unrhyw ddisgyblion nac ysgolion unigol mewn unrhyw adroddiad na chyhoeddiad. Dim ond cyhyd ag y bydd eu hangen i gynnal gwaith dadansoddi ac adrodd mewn perthynas â'r astudiaeth y bydd y Ganolfan Genedlaethol (ÃÛÌÒapp, OUCEA ac UCL) yn cadw data PISA ac, ar ôl hynny, bydd yn dileu'r data o'i systemau.
Diben yr astudiaeth yw cynhyrchu ystadegau ar ddysgu a datblygiad disgyblion, er mwyn dysgu mwy am y ffordd orau o helpu disgyblion i feistroli pynciau allweddol. Byddwn yn casglu gwybodaeth am yr hyn y mae disgyblion wedi'i ddysgu o'u hatebion i gwestiynau asesiad PISA. Byddwn hefyd yn holi disgyblion am eu hagweddau a'u cymhellion er mwyn ceisio deall sut mae'r rhain yn cyfrannu at berfformiad disgyblion. Os bydd modd adnabod disgyblion neu eu hysgol yn y data sy'n deillio o'r astudiaeth, caiff y manylion hynny eu dileu a defnyddir cod yn eu lle, a chaiff yr holl ddata o'r astudiaeth eu cyfuno ag ymatebion gan ddisgyblion ac ysgolion eraill sy'n cymryd rhan yn genedlaethol a'u cymharu â chanlyniadau disgyblion ledled y byd. Os bydd unrhyw gwestiynau na fydd disgyblion am eu hateb, gallant eu gadael yn wag.

Sut rydym yn defnyddio data personol

At ddiben yr ymchwil hon, bydd Llywodraeth Cymru/ Adran Addysg Lloegr/ Adran Addysg Gogledd Iwerddon a'u contractwyr cymeradwy yn cysylltu'r wybodaeth â gwybodaeth arall sydd gan Lywodraeth Cymru/ Adran Addysg Lloegr/ Adran Addysg Gogledd Iwerddon eisoes (megis ar y Gronfa Ddata Genedlaethol o Ddisgyblion) neu y gellir cael gafael arni'n gyfreithlon o ffynonellau eraill. Diben hyn yw osgoi gofyn i gyfranogwyr dro ar ôl tro am wybodaeth sydd gennym eisoes a gallu dadansoddi manteision tymor hwy dysgu cynnar. Mae hysbysiadau preifatrwydd llawn ar gael gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Hoffem ddiolch i bob ysgol a disgybl sy'n cymryd rhan am eu cyfraniad at y project pwysig hwn. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae croeso i chiÌýgysylltu â Thîm Cymorth PISA.

Ìý

Hysbysiadau preifatrwydd llawn ar gyfer Prawf Maes PISA:

Lloegr

CymruÌý(Cymraeg)

CymruÌý(English)

ÃÛÌÒapp

Partner logos: Department for Education (England), Welsh Government, Department of Education (NI), OECD, ÃÛÌÒapp, UCL, Department of Education University of Oxford
  • Educators
  • Learners
  • Industry and Professionals
  • Shop
  • Contact us
  • Where we are
  • The PEL board
  • Careers
  • News and policy
  • Global Rights Licensing
  • Global Permissions
  • Accessible content
  • Authors
  • Retail Partners

Related sites


  • Corporate & Investors
  • Privacy Notice
  • Cookies
  • Legal Statement
  • Accessibility
  • Modern Slavery Act