
I Rieni
Beth yw PISA?

Ìý
Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw'r astudiaeth ryngwladol fwyaf yn y byd o systemau addysg ac fe'i datblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed o bob cwr o'r byd mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen. Drwy gymryd rhan yn PISA25, mae eich plentyn yn cyfrannu at wella addysg yn y DU a thu hwnt. Gellir cael rhagor o wybodaeth arÌý.
Beth sy'n digwydd fel rhan o PISA?
I'ch plentyn, mae asesiad PISA yn cynnwys cymryd rhan yn y canlynol:
•ÌýAsesiad rhyngweithiol ar y sgrin sy'n ymdrin â gwyddoniaeth, darllen a mathemateg
•ÌýHoliadur cefndir yn holi am ei fywyd, ei ysgol a'i brofiadau dysgu.
Nid oes angen paratoi na gwneud unrhyw waith ymlaen llaw er mwyn i'ch plentyn allu cwblhau'r asesiad.

Beth yw manteision PISA?
Bydd eich plentyn yn cyfrannu at astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well.
Bydd eich plentyn yn cael profiad o gynrychioli Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn astudiaeth ryngwladol.
Bydd eich plentyn yn gallu ymarfer y sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesiadau allanol drwy asesiad ar-lein arloesol ‘risg isel’.