ÃÛÌÒapp

ÃÛÌÒapp Always Learning

Select your Language

  • English
  • Cymraeg

Home

  • YnglÅ·n â PISA
  • I Ysgolion
    • Cwestiynau Cyffredin
  • I Ddisgyblion
  • I Rieni
  • I Gydlynwyr Ysgol
    • Camau nesaf
  • Canfyddiadau PISA
  • Blogiau
  • Y Tîm
  • Diogelu Data
  • Cysylltu â ni
  • Secure document share
  • ÃÛÌÒapp UK home >
  • PISA25 >
  • I Ysgolion >
  • Cwestiynau Cyffredin .
PISA logo

Cwestiynau Cyffredin am PISA

Ìý


Lluniwyd y cwestiynau cyffredin hyn yn seiliedig ar y cwestiynau mwyaf cyffredin a gaiff eu gofyn gan ysgolion. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae croeso i chiÌýgysylltu â Thîm Cymorth PISA.

1. Beth yw PISA?

Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw'r astudiaeth ryngwladol fwyaf yn y byd o systemau addysg ac fe'i datblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed o bob cwr o'r byd mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth. Mae'r profion wedi'u cynllunio i fesur i ba raddau y mae'r disgyblion yn meistroli gwybodaeth a sgiliau allweddol er mwyn eu paratoi ar gyfer sefyllfaoedd go iawn yn y byd fel oedolyn. Ceir rhagor o wybodaeth ynÌýÌýac ar .

2. Pryd y caiff PISA ei gynnal?

Ar gyfer Lloegr, caiff PISA ei gynnal yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2025, ac yn ystod mis Medi a mis Hydref 2025 yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.

Rydym wedi cynnig dyddiad ar gyfer cynnal yr astudiaeth yn eich ysgol (yn y neges e-bost ragarweiniol a anfonwyd at eich Pennaeth). Gobeithio bod y dyddiad hwn yn gyfleus i'ch staff a'ch disgyblion, ac y gellir trefnu bod ystafell(oedd) addas ar gael. Os nad yw'r dyddiad hwn yn addas am unrhyw reswm, gall Cydlynydd PISA eich Ysgol gysylltu â'n Tîm Cymorth PISA i awgrymu tri dyddiad amgen rhwng 24 Chwefror a 4 Ebrill 2025 (Lloegr) neu rhwng 15 Medi ac 14 Hydref 2025 (Cymru / Gogledd Iwerddon) ar gyfer cynnal yr astudiaeth. Bydd ein Tîm Cymorth PISA yn ymateb i gadarnhau'r dyddiad newydd ar gyfer eich prawf.

3. Pam mae fy ysgol wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn PISA?

Mae eich ysgol wedi cael ei dewis yn benodol i gynrychioli eich gwlad yn astudiaeth PISA. Un o ofynion PISA yw sicrhau bod y sampl o ysgolion sy'n cymryd rhan yn cynrychioli ysgolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Lloegr: Nid yw'n orfodol cymryd rhan yn yr astudiaeth ond mae'r Adran am ei gwneud yn glir ei bod yn disgwyl yn gryf i bob ysgol gymryd rhan. Mae Deddf Addysg 1996 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Addysg i gyhoeddi cyfarwyddyd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gymryd rhan mewn astudiaethau rhyngwladol os bydd yn teimlo y byddai'n fuddiol gwneud hynny.Ìý Bydd yr Adran Addysg yn adolygu cyfranogiad ysgolion fesul ysgol a dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd yn eithrio ysgolion rhag cymryd rhan, ar gyfer ysgolion sy'n wynebu amgylchiadau esgusodol eithafol. Nid yw'r Adran yn disgwyl y bydd llawer o ysgolion yn perthyn i'r categori hwnnw.Ìý

4. Pam mae Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan yn PISA?

PISA yw astudiaeth addysg ryngwladol fwyaf y byd ac mae'n mesur gwybodaeth a sgiliau disgyblion 15 oed. Mae'r canlyniadau yn ein helpu i ddeall y darlun cenedlaethol o ran cyflawniad disgyblion yn y grŵp oedran hwn ac yn dylanwadu'n uniongyrchol ar bolisïau a datblygiadau cenedlaethol, gan helpu i lywio addysg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddisgyblion y dyfodol.

Mae PISA yn ein helpu i ddeall i ba raddau y mae disgyblion yn gallu cymhwyso gwybodaeth a sgiliau mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen i ddadansoddi, rhesymu a chyfathrebu'n effeithiol wrth iddynt archwilio, dehongli a datrys problemau. Mae'r astudiaeth hefyd yn casglu gwybodaeth werthfawr am agweddau a chymhellion disgyblion er mwyn helpu i ddeall sut mae'r rhain yn cyfrannu at berfformiad disgyblion.

Mae PISA yn cynnig cyfle i gymharu cyflawniad yn rhyngwladol ac mae'n annog gwledydd i ddysgu oddi wrth ei gilydd, gan greu systemau ysgol tecach a mwy cynhwysol. Bydd mwy na 90 o wledydd ac economïau yn cymryd rhan, gan ddarparu cyfres gyfoethog o ddata y gellir ei chymharu.

PISA yw arolwg addysg rhyngwladol mwyaf y byd ac mae'n mesur gwybodaeth a sgiliau disgyblion 15 oed. Mae'n creu'r darlun cenedlaethol o ran cyflawniad disgyblion y grŵp oedran hwn, ac mae'n effeithio ar bolisïau a datblygiadau lleol a chenedlaethol.

5. Beth rydym wedi'i ddysgu o PISA?

Cafodd canlyniadau PISA 2022 eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023. Gallwch ddod o hyd i'r adroddiadau cenedlaethol llawn ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon drwy ddilyn y dolenni isod. Mae blog gan Brifysgol Rhydychen hefyd sy'n crynhoi rhai o'r canfyddiadau allweddol, sydd ar gael yma:Ìý

Adroddiadau Cenedlaethol:

Llywodraeth Cymru,Ìýyn acÌýyn

6. Beth yw manteision cymryd rhan yn yr astudiaeth i'm hysgol?

Mae'r ysgolion a'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn PISA yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at y broses o ddeall ein system addysg a dim ond drwy'r cyfranogiad hwn y gallwn wireddu'r cyfleoedd y mae PISA yn eu cynnig i wella ein polisïau a'n harferion addysgol.
Drwy gymryd rhan yn PISA, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Cefnogi astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well, gan ddylanwadu'n uniongyrchol ar bolisïau a datblygiadau cenedlaethol.
  • Cyfrannu at sylfaen dystiolaeth ryngwladol sy'n llywio diwygiadau addysgol ledled y byd, gan helpu i wella safonau a lleihau bylchau cyrhaeddiad. Gallwch weld sut mae PISA yn llywio diwygiadau addysg drwy fynd iÌý
  • Darparu gwybodaeth am feysydd fel cydraddoldeb cymdeithasol a chydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac agweddau tuag at ddysgu, gan roi cyfle i wneuthurwyr polisi ddysgu o'r arferion gorau yn y DU ac yn rhyngwladol.

Byddwch yn cynnig y cyfle i'ch disgyblion wneud y canlynol:

Ymdrin â chwestiynau sy'n herio eu gallu i adalw gwybodaeth a'i chymhwyso mewn ffordd greadigol, drwy gwestiynau yn seiliedig ar senarios.

Ymarfer eu sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesiadau allanol drwy asesiad ar-lein ‘risg isel’ nad oes angen paratoi ymlaen llaw ar ei gyfer.

Cael profiad o gynrychioli eu gwlad mewn astudiaeth fyd-eang bwysig, gan ddangos eu sgiliau, eu galluoedd a'u gwydnwch i'r byd.

7. Sut caiff eich cyfraniad ei gydnabod?

Er mwyn cydnabod eich cyfraniad gwerthfawr, bydd eich ysgol yn cael tâl gweinyddu. Byddwn yn anfon ffurflen tâl atoch yn dilyn eich galwad gychwynnol gan Dîm Cymorth PISA.

8. A fydd angen i staff yr ysgol oruchwylio'r astudiaeth?

Na fydd. Bydd y Ganolfan Genedlaethol (ÃÛÌÒapp) yn darparu Gweinyddwr Prawf a fydd yn dod i'r ysgol ar ddiwrnod yr asesiad ac a fydd yn gyfrifol am gynnal yr astudiaeth. Mae Gweinyddwyr Prawf yn weithwyr addysg proffesiynol profiadol, cyn-athrawon yn aml, ac mae gan bob un ohonynt dystysgrif fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) / Access NI. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i chi sicrhau bod aelod o staff yr ysgol ar gael i aros yn yr ystafell yn ystod yr asesiad. Caiff Gweinyddwyr Prawf Cymraeg eu hiaith eu darparu lle bo angen.

9. Beth sydd wedi'i gynnwys yn yr asesiad?

Bydd disgyblion yn cwblhau asesiad cyfrifiadurol rhyngweithiol dwy awr o hyd, gan ateb cwestiynau aml-ddewis a chwestiynau penagored am wyddoniaeth, mathemateg a darllen. Yn PISA 2025, gwyddoniaeth fydd y maes ffocws, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o destunau. I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith penodol, ewchÌý iÌý

Bydd pob disgybl yn cwblhau gwahanol gyfuniadau o eitemau prawf o blith cronfa gwestiynau fawr. Nod yr asesiad yw canfod sut mae disgyblion yn meistroli sgiliau penodol fel sgiliau meddwl yn feirniadol mewn gwyddoniaeth, sgiliau datrys problemau mewn mathemateg a strategaethau darllen; sgiliau sy'n bwysig y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Gofynnir i ddisgyblion a staff hefyd gwblhau holiadur ar-lein er mwyn rhoi gwybodaeth gyd-destunol bwysig i ategu data'r asesiad:

  • Mae'r holiadur i ddisgyblion yn holi'r disgyblion sy'n cymryd rhan am agweddau ar eu bywydau gartref ac yn yr ysgol, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, amgylchedd eu cartref, hinsawdd yr ysgol ar gyfer dysgu, eu hagweddau tuag at ddysgu mathemateg, gwyddoniaeth a darllen, a'u defnydd o adnoddau digidol.
  • Mae'r holiadur i ysgolion yn holi amrywiaeth o gwestiynau cyd-destunol i'r Pennaeth (neu aelod o'r uwch-dîm arwain) am yr ysgol sy'n cymryd rhan, gan gynnwys nodweddion demograffig disgyblion yr ysgol, yr adnoddau addysgu sydd ar gael, ac amgylchedd dysgu'r ysgol. Dylid cwblhau'r holiadur i ysgolion cyn dyddiad yr asesiad.

Gellir gweld enghreifftiau o'r asesiadau a'r holiaduron ynÌý

Ìý

10. Alla i ddewis pa ddisgyblion fydd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth?

Na allwch – defnyddir proses samplu ar hap i ddewis hyd at 67 o'ch disgyblion blwyddyn 11 ym mlwyddyn academaidd 2023/24 ar gyfer ysgolion yng Nghymru a Lloegr. Cewch wybod pa ddisgyblion a gafodd eu dewis cyn gynted ag y bydd y broses samplu wedi'i chwblhau: rydym yn disgwyl i'r broses hon gael ei chynnal yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2023. Mae'n bwysig bod pob disgybl yn y sampl yn ymgymryd â'r asesiad, ond gellir cymhwyso meini prawf eithrio ar gyfer disgyblion a fydd o bosibl yn ei chael hi'n anodd ymgymryd â'r asesiadau. Cewch ragor o fanylion am eithriadau ar gam diweddarach.

11. Am ba hyd y bydd yr astudiaeth yn para?


Ar ddiwrnod yr asesiad, bydd angen i'r disgyblion fod ar gael am gyfnod o ryw 3 i 4 awr. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn anelu at gwblhau'r astudiaeth erbyn amser cinio, ond gallwn wneud trefniadau i ddechrau'n hwyrach.

Mae'r asesiad yn para am 2 awr. Ar ôl egwyl o 5-10 munud, gofynnir i'r disgyblion gwblhau'r holiadur ar-lein, a fydd yn cymryd tua 30-40 munud.

Bydd Gweinyddwr y Prawf yn cyrraedd o leiaf awr cyn yr amser dechrau a ddewiswyd gennych er mwyn paratoi'r ystafell. Dylai Cydlynydd yr Ysgol anelu at gyrraedd ar yr un pryd. Byddem yn gwerthfawrogi lle parcio ar safle'r ysgol, os oes lleoedd parcio ar gael.

Caiff yr holiadur i ysgolion ei gwblhau ar-lein cyn diwrnod yr asesiad. Caiff cyfarwyddiadau yn esbonio sut i gael gafael ar yr holiadur eu hanfon at Gydlynydd yr Ysgol i'w rhoi i'r Pennaeth. Dylai'r holiadur gymryd tua 30 munud i'w gwblhau.

12. A oes angen i'r disgyblion ddod ag unrhyw beth gyda nhw neu baratoi?

Nid oes angen paratoi na gwneud unrhyw waith ymlaen llaw er mwyn i ddisgyblion allu cwblhau'r asesiad.

Dylai'r disgyblion ddod â chyfrifiannell gyda nhw a llyfr i'w ddarllen yn dawel os byddant yn gorffen yrÌýasesiad yn gynnar.

13. Ble dylid cynnal yr astudiaeth a pha gyfarpar TG sydd ei angen?

Bydd angen i'r disgyblion ymgymryd â'r asesiad mewn ystafell dawel lle nad oes unrhyw beth i dynnu eu sylw. Gall y disgyblion eistedd ochr yn ochr â bylchau priodol rhyngddynt ar ffurf ystafell ddosbarth gyffredin.

Bydd angen cyfrifiadur wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd ar bob disgybl, ynghyd â bysellfwrdd a llygoden/pad tracio. Yn ddelfrydol, dylid defnyddio ystafelloedd TG; fel arall, byddai ystafell ddosbarth â gliniaduron a WiFi/rhyngrwyd yn iawn, ar yr amod y gall y gliniaduron bara am 4 awr o leiaf gan ddefnyddio batri neu fod plygiau ar gael.

Nid yw'n addas defnyddio dyfeisiau iPad na llechi ar gyfer PISA.

14. A fydd angen i mi drefnu'r cyfleusterau TG a'r WiFi ymlaen llaw?

Byddwn yn cydgysylltu'n agos â'r Cydlynydd Ysgol a'r Cydlynydd TG a enwebwyd gennych cyn diwrnod yr asesiad er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau TG yn eich ysgol wedi'u trefnu'n briodol.

Ar ddiwrnod yr asesiad, bydd angen y canlynol arnom:

  • Cyfrifiadur wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd â bysellfwrdd a llygoden ar gyfer pob disgybl: gellir defnyddio gliniadur neu gyfrifiadur personol a bydd ei angen am gyfnod o hyd at 4 awr (ar gyfer yr asesiad, yr holiadur i ddisgyblion a'r egwylion)
  • Os byddwch yn defnyddio gliniaduron, dylid eu gwefru'n llawn cyn diwrnod yr astudiaeth
  • Cysylltiad WiFi neu ryngrwyd, gan fod angen defnyddio'r rhyngrwyd i agor yr asesiadau a'r holiaduron gan ddefnyddio manylion mewngofnodi diogel
  • Bydd angen hefyd i chi sicrhau bod eich Cydlynydd TG ar gael ar ddiwrnod yr asesiad er mwyn helpu gydag unrhyw broblemau a allai godi.

Ym mis Ionawr 2024, byddwn yn anfon dolen i chi redeg prawf diagnostig byr (5 munud o hyd) ar gyfrifiadur ar system eich ysgol, er mwyn cadarnhau bod modd cynnal yr asesiadau ar eich cyfrifiaduron. Os bydd y prawf yn nodi unrhyw broblemau, byddwn yn cysylltu â chi ac yn gweithio gyda'ch staff TG i ddatrys y broblem/problemau.

Bydd angen hefyd i chi sicrhau bod eich Cydlynydd TG ar gael ar ddiwrnod yr asesiad er mwyn helpu gydag unrhyw broblemau a allai godi.

Os nad oes gan eich ysgol ddigon o gyfrifiaduron personol neu liniaduron, gallwn ddarparu gliniaduron ychwanegol ar gyfer yr asesiadau: cysylltwch â Thîm Cymorth PISA a fydd yn fwy na pharod i'ch helpu.Ìý

15. Beth yw prif ddyletswyddau Cydlynwyr Ysgol PISA?

Bydd Tîm Cymorth PISA yn helpu Cydlynydd PISA eich ysgol drwy gydol y broses ac yn anelu at sicrhau bod cyn lleied o waith gweinyddol â phosibl. Yn aml, dewisir athro dosbarth blwyddyn 11 neu'r swyddog arholiadau ar gyfer y rôl hon. Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys y canlynol:

  • Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt i ÃÛÌÒapp ac i Weinyddwr Prawf PISA.
  • Cytuno ar ddyddiad a gwneud trefniadau i'r disgyblion gwblhau'r asesiad yn yr ysgol.
  • Gweithio gyda ÃÛÌÒapp i gadarnhau manylion yr holl ddisgyblion cymwys ac wedyn y rhai hynny a gaiff eu dewis fel rhan o'r sampl i gymryd rhan.
  • Hysbysu disgyblion a rhieni am yr astudiaeth, gan ddefnyddio'r templedi ar gyfer llythyrau a ddarperir gan ÃÛÌÒapp.
  • Hysbysu bwrdd y llywodraethwyr bod yr ysgol yn cymryd rhan yn yr astudiaeth (mae'n bosibl y bydd eich Pennaeth am wneud hyn).
  • Sicrhau bod cyfleusterau TG wedi'u trefnu'n barod ar gyfer yr asesiadau ar-lein.
  • Sicrhau y caiff unrhyw ddeunyddiau a anfonir cyn yr astudiaeth eu storio'n ddiogel.
  • Goruchwylio'r broses o ddosbarthu, cwblhau a chasglu'r holiaduron i ysgolion cyn dyddiad y prawf.
  • Ar ddiwrnod yr asesiad, helpu Gweinyddwr Prawf PISA.

Mae'r dudalen Y Camau Nesaf yn dangos llinell amser o ddyletswyddau Cydlynydd Ysgol PISA a byddwn yn anfon gwybodaeth fanylach atoch wrth i chi gyrraedd pob cam a phan fydd hi'n bryd ymgymryd â'r tasgau.

Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnal yr astudiaeth mewn ffordd debyg ym mhob ysgol, mae'n bosibl y bydd Swyddog Monitro Ansawdd yn mynychu eich sesiwn. Os felly, bydd yn gofyn cwestiynau i Gydlynydd yr Ysgol am y trefniadau y bu'n rhaid i'ch ysgol eu gwneud ac yn gofyn eich barn am y ffordd y cafodd yr astudiaeth ei threfnu.

Rhagor o wybodaeth i Gydlynwyr Ysgol

16. Beth yw prif ddyletswyddau dirprwy Gydlynydd Ysgol?

Gofynnwn i bob ysgol ddarparu dirprwy Gydlynydd Ysgol rhag ofn y bydd prif Gydlynydd yr Ysgol yn absennol. Ni fydd yn rhaid i'r unigolyn hwn ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau oni bai fod prif Gydlynydd yr Ysgol yn absennol am gyfnod hir.

17. Beth os na fydd disgybl am ateb cwestiwn penodol?

Anogir disgyblion i wneud eu gorau wrth ateb cwestiynau'r asesiad er mwyn dangos beth y maent yn ei wybod ac yn gallu ei wneud. Yn yr holiadur, anogir disgyblion i roi atebion gonest, gan wybod y bydd eu hymatebion yn cael eu cadw'n gyfrinachol drwy gydol y broses. Fodd bynnag, mae croeso i ddisgyblion beidio ag ateb unrhyw gwestiwn/cwestiynau nad ydynt yn teimlo'n gyfforddus yn ei ateb/eu hateb.

18. A fydd y canlyniadau yn aros yn gyfrinachol?

Byddant – bydd manylion adnabod disgyblion ac ysgolion yn aros yn gyfrinachol ac ni chaiff canlyniadau ysgolion na disgyblion unigol eu cyhoeddi.

Ni fydd unrhyw fanylion adnabod personol yn rhan o'r data a gaiff eu rhannu â threfnwyr yr astudiaeth ryngwladol: caiff manylion am ddisgyblion ac ysgolion eu dileu a defnyddir cod yn eu lle, fel na fydd modd adnabod unrhyw ysgolion na disgyblion unigol.

Caiff y data eu dadansoddi ochr yn ochr â data ysgolion eraill yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac yn y gwledydd eraill sy'n cymryd rhan. Ni fydd y llywodraeth nac unrhyw sefydliad a gaiff ganiatâd i weld y data at ddibenion gwaith cymharu neu waith ymchwil rhyngwladol yn cyhoeddi gwybodaeth sy'n cynnwys manylion adnabod unrhyw unigolion neu ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth na manylion sy'n golygu bod modd eu hadnabod.

19. Sut bydd yr astudiaeth yn diogelu data fy ysgol?

Rydym yn cymryd diogelwch data o ddifrif ac yn dilyn Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu ei chadw'n ddiogel ac ni fydd unrhyw adroddiad neu gyhoeddiad yn cynnwys manylion adnabod unrhyw ddisgyblion neu ysgolion unigol nac unrhyw fanylion sy'n golygu bod modd eu hadnabod. Dim ond cyhyd ag y bydd eu hangen i gynnal gwaith dadansoddi ac adrodd mewn perthynas â'r astudiaeth y byddwn yn cadw data PISA ac, ar ôl hynny, byddwn yn dileu'r data o'n systemau.

Gweld hysbysiadau preifatrwydd

20. Sut y caiff disgyblion a rhieni/gwarcheidwaid eu hysbysu am yr astudiaeth?

yddwn yn darparu templedi o lythyrau i chi eu hanfon at y disgyblion sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth a'u rhieni/gwarcheidwaid. Caiff y templedi hyn eu hanfon atoch drwy e-bost er mwyn i chi allu eu golygu fel y bo angen a'u hargraffu neu eu dosbarthu'n electronig. Byddwn yn rhoi llythyrau i chi sy'n cyfeirio at breifatrwydd data (un i ddisgyblion ac un i rieni) y mae'n rhaid eu hanfon at y disgyblion a'u rhieni/gwarcheidwaid ac na ddylid eu newid. Dylid anfon y llythyrau unwaith y byddwn wedi cadarnhau'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth (nid cyn hynny).

Er mwyn cael gwybod mwy, gellir cyfeirio rhieni/gwarcheidwaid a disgyblion at y wefan benodedig rydym wedi'i chreu ar gyfer PISA 2025 yn benodol i unigolion sy'n cymryd rhan yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn .

21. Ble galla i gael cymorth/ rhagor o wybodaeth?

Gellir cysylltu â Thîm Cymorth PISA o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm (o 8am ar ddiwrnodau profion) ac mae'r manylion cyswllt i'w gweld ar frig y Cwestiynau Cyffredin.

I gael gwybodaeth fwy cyffredinol am PISA, edrychwch ar wefan yr OECD ar gyfer PISA yn

Partner logos: Department for Education (England), Welsh Government, Department of Education (NI), OECD, ÃÛÌÒapp, UCL, Department of Education University of Oxford
  • Educators
  • Learners
  • Industry and Professionals
  • Shop
  • Contact us
  • Where we are
  • The PEL board
  • Careers
  • News and policy
  • Global Rights Licensing
  • Global Permissions
  • Accessible content
  • Authors
  • Retail Partners

Related sites


  • Corporate & Investors
  • Privacy Notice
  • Cookies
  • Legal Statement
  • Accessibility
  • Modern Slavery Act