ÃÛÌÒapp

ÃÛÌÒapp Always Learning

Select your Language

  • English
  • Cymraeg

Home

  • YnglÅ·n â PISA
  • I Ysgolion
    • Cwestiynau Cyffredin
  • I Ddisgyblion
  • I Rieni
  • I Gydlynwyr Ysgol
    • Camau nesaf
  • Canfyddiadau PISA
  • Blogiau
  • Y Tîm
  • Diogelu Data
  • Cysylltu â ni
  • Secure document share
  • ÃÛÌÒapp UK home >
  • PISA25 >
  • I Ysgolion .
PISA logo

I Ysgolion

Beth yw PISA?

Ìý

Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw'r astudiaeth ryngwladol fwyaf yn y byd o systemau addysg ac fe'i datblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed o bob cwr o'r byd mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen. Drwy gymryd rhan yn PISA25, mae eich ysgol yn cyfrannu at wella addysg yn y DU a thu hwnt. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar .

Beth yw Prawf Maes PISA?

Caiff astudiaeth PISA ei chynnal mewn dau gam, sef prawf maes a phrif astudiaeth, a chaiff ysgolion gwahanol eu dewis ar gyfer pob cam. Mae'r prawf maes (Mawrth 2024) yn cynnwys sampl lai o ysgolion a disgyblion na'r brif astudiaeth (Hydref 2025). Mae'r prawf maes yn helpu i sicrhau bod asesiadau, holiaduron a phrosesau PISA 2025 yn gweithio cystal â phosibl cyn cynnal y brif astudiaeth – felly mae'n rhan bwysig a dylanwadol iawn o'r astudiaeth, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr.

Beth sydd angen i ni ei wneud?

Mae asesiad PISA yn cynnwys:

Asesiad ar sgrin i ddisgyblion

Yn asesu cymhwysedd mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg.

Holiadur cefndir i ddisgyblion

Yn holi am eu nodweddion, eu hysgol a'u profiadau dysgu.

Holiadur i ysgolion i'r penaethiaid

Yn holi am gyd-destun eu hysgol, y staff a'r disgyblion.

Nid oes angen i ddisgyblion baratoi na gwneud unrhyw waith ymlaen llaw er mwyn gallu cwblhau'r asesiad.

"Roedd proses PISA yn ddiddorol ac yn syml i ddisgyblion ei chwblhau. Roedd y staff, y disgyblion a'r rhieni yn fwy na pharod i gefnogi PISA a'r gwaith pwysig y mae'r rhaglen yn ei wneud yn y sector addysg." - Ysgol a gymerodd ran ym Mhrawf Maes PISA 2024.Ìý

I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y caiff PISA ei chynnal yn eich ysgol, cliciwch yma

Beth yw manteision PISA?

Mae cymryd rhan yn PISA yn cynnig amrywiaeth o fanteision i ysgolion, i ddisgyblion ac i addysg yn y DU. Byddwch yn gwneud y canlynol:

• Cyfrannu at astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well

•ÌýRhoi profiad i ddisgyblion o gynrychioli eu gwlad mewn astudiaeth ryngwladol a chynnig y cyfle iddynt ymarfer y sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesiadau allanol mewn asesiad ar-lein diddorol ac arloesol ‘risg isel’.

Er mwyn diolch i chi am roi o'ch amser, byddwch yn cael tâl gweinyddu yn uniongyrchol i'ch ysgol.

Cysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae croeso i chi gysylltu â thîm cymorth PISA25.

Partner logos: Department for Education (England), Welsh Government, Department of Education (NI), OECD, ÃÛÌÒapp, UCL, Department of Education University of Oxford
  • Educators
  • Learners
  • Industry and Professionals
  • Shop
  • Contact us
  • Where we are
  • The PEL board
  • Careers
  • News and policy
  • Global Rights Licensing
  • Global Permissions
  • Accessible content
  • Authors
  • Retail Partners

Related sites


  • Corporate & Investors
  • Privacy Notice
  • Cookies
  • Legal Statement
  • Accessibility
  • Modern Slavery Act